Grŵp Trawsbleidiol

Saethu a Chadwraeth

 

 

Dydd Mawrth 10 Chwefror 2015

Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

6:30pm

 

 

Yn bresennol:

Angela Burns AC - Cadeirydd

William Graham AC

Jocelyn Davies AC

Alun Ffred Jones AC

Russell George AC

Mark Isherwood AC

Llyr Huws Griffith AC

 

Gary Ashton, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC) - Cyfarwyddwr Cymru

Tim Russell BASC - Pennaeth Cadwraeth

Glynn Evans BASC - Pennaeth Rheoli Anifeiliaid Hela a Cheirw

Derek Williams BASC - Swyddog Gwlad

 

Rachael Evans – Cynghrair Cefn Gwlad

Huw Rhys Thomas - Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr

 

Siaradwyr gwadd:

Jono Garton – Busnes Saethu Bodfuan

Wayne Tuffin - Perchennog Busnes Saethu Masnachol

 

Ysgrifennydd

Esther Wakeling BASC

 

Ymddiheuriadau

Lindsay Whittle AC

Andrew RT Davies AC

Stuart Burns

 

 

 

Croeso

Croesawodd Angela Burns bawb i'r cyfarfod.

 

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn yn gywir.

 

Cyflwyniad gan Mr Jono Garton - busnes saethu Bodfuan

Prynodd Mr .Garton y rhydd-ddaliad i hawliau saethu ar 4,000 o aceri 6 mlynedd yn ôl; roedd y tir wedi bod yn wag ers 10 mlynedd cyn hynny. Roedd y busnes saethu wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol ac roedd Jono yn awyddus i’w adfer i'w hen ogoniant fel menter fasnachol yn seiliedig ar ei ddiddordeb mewn saethu a’i ddymuniad cryf i greu gwarchodfa natur, sy’n awr yn cynnwys llygod y dŵr, wiwerod coch ac ystlumod ymysg llawer o rywogaethau eraill.

 

Ethos Bodfuan yw y dylid bwyta popeth a gaiff ei saethu.  

 

Cyfaddefodd Jono nad oedd wedi rhagweld effaith economaidd ehangach y fenter, sydd wedi bod yn hwb i fasnach y siop gynnau, yr ysgol saethu, y gwesty a’r bwytai a’r cwmnïau teithio lleol.

 

Mae ei fusnes yn seiliedig ar y profiad o saethu ond mae’n bwysig hefyd fod pawb yn cael amser da yng nghwmni ei gilydd ac yn cael llond plât o helgig i’w fwyta ar ddiwedd y dydd.

 

Mae busnes saethu Bodfuan yn cyflogi 4 aelod o staff amser llawn a 4 rhan amser ac mae’r diwrnodau saethu eisoes yn llawn ar gyfer tymor 2015/16. Mae’n denu cwsmeriaid amrywiol – o’r ardal leol ac, yn bwysicach o ran yr economi, o bell. Dyma ddadansoddiad o’r cwsmeriaid:  

 

mae 5% yn byw o fewn 50 milltir i Bodfuan

mae 40% yn byw o fewn 40 milltir i Lundain

mae 30% yn dod o weddill y DU

mae 20% yn dod o Ffrainc

mae 5% yn dod o wledydd eraill

 

Esboniodd Jono rôl Llywodraeth Cymru yn y gwaith o ddatblygu busnes saethu llwyddiannus ym Modfuan. Defnyddiodd Raglen Recriwtio Young i ddysgu 2 o weithwyr dan hyfforddiant. Yn ystod y 4 blynedd diwethaf, mae Coleg Meirion Dwyfor wedi bod yn cynnig cwrs ciperiaid, ond nid yw ar gael bellach, sy’n golygu nad unrhyw gwrs ciperiaid ar gael yng Nghymru. Esboniodd Jono hefyd ei fod wedi cael cymorth gan y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Gwledig, Busnes Cymru a Thwf Swyddi Cymru.

 

Byddai’r gwaith o ddatblygu Bodfuan wedi bod yn haws pe bai llinell ffôn wedi’i osod - ond ni wnaed hynny oherwydd y gost, gwell signal ffôn symudol a gwasanaeth band eang a'r Gronfa Fuddsoddi Leol.

 

Yna esboniodd Jono sut roedd yn teimlo y gallai Llywodraeth Cymru gyfrannu at ei fusnes yn y dyfodol. Teimlai bod galw mawr am gyfleoedd i saethu yng Nghymru ac y dylid annog a hyrwyddo hynny ac efelychu’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban. Teimlai hefyd fod gan Croeso Cymru rôl allweddol o ran hyrwyddo saethu ond, ar hyn o bryd, os ydych yn chwilio am ‘saethu’ ar eu gwefan, cewch eich cyfeirio at bêl-droed. Mae hefyd yn teimlo y dylem fod yn gweithio i annog colegau Cymru i gynnig cyrsiau i’r rhai sydd am fod yn giperiaid.

 

Teimlai Jono hefyd fod angen dysgu’r cyhoedd am werth saethu a'i rôl yn yr economi ehangach a'r amgylchedd. Roedd o’r farn y dylai'r Rhyddhad Ardrethi Gwledig barhau a bod angen i randdeiliaid allweddol gydnabod bod saethu’n ddiwydiant gwerthfawr ynddo'i hun.

 

Dywedodd Jocelyn Davies mai’r Alban, mae’n ymddangos, yw’r dewis amlwg i’r rhai sydd am fynd i saethu, ac nad ydym yn llwyddo i annog Cymry i saethu yng Nghymru.

 

Dywedodd Glynn Evans fod ei syndicâd saethu lleol yn gwario £13,000 y flwyddyn yn yr economi leol.

 

Daeth Jono â’i gyflwyniad i ben drwy atgoffa'r grŵp fod y tymor saethu yn para o fis Medi  hyd at fis Ionawr, sef ar ôl i’r tymor ymwelwyr ddod i ben, a bod y mwyafrif yn treulio noson neu ddwy yn yr ardal gan eu bod yn dod o bell. Dywedodd y bu'r gwesty a ddefnyddiwyd ar gyfer ei gwsmeriaid yn brysurach ym mis Rhagfyr nag ym mis Awst, a hynny o ganlyniad uniongyrchol i’w fusnes saethu.

 

 

Mr. Wayne Tuffin - Perchennog Busnes Saethu Masnachol (Ystâd Rhug)

Dechreuodd Mr.Tuffin drwy esbonio sut y dechreuodd weithio fel cipar pan oedd yn fachgen gan fanteisio ar gynllun YTS i ddysgu rhagor cyn sefydlu ei fferm anifeiliaid hela’i hun. Pan oedd yn 25 oed, cafodd gynnig rhedeg ei fusnes saethu ei hun a hynny’n bennaf ar gyfer pobl leol.

 

Ers yr 20 mlynedd diwethaf mae Wayne wedi bod yn datblygu ei fusnes ac yn awr mae’n rhedeg 7 busnes saethu masnachol gan gynnwys Ystâd Rhug ger Corwen. Mae pob un yn cynnwys tua 3,000 - 4,000 o aceri ac mae'n talu rhent o rhwng £5 a £10 yr acer i berchennog tir ac yn gweithredu fel tenant chwaraeon.

 

Mae'n cynnig 200-240 o ddiwrnodau saethu bob tymor ac yn codi tâl o rhwng £150 y gwn / y dydd a £3,000 y gwn / y dydd

 

Mae Wayne yn cyflogi 12 aelod o staff amser llawn a chafodd 2,500 o gwsmeriaid y tymor hwn. O'r rhain, arhosodd 1,200 mewn gwestai lleol.

 

Fel Jono, bydd holl adar Wayne yn rhan o’r gadwyn fwyd ac ar hyn o bryd mae'n gwerthu i Aldi a Tesco.

 

Dywedodd Wayne wrth y grŵp fod ei ddyddiau saethu’n llawn ar gyfer y tymor nesaf a'i fod yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn cynnig gwasanaeth personol iawn. Dywedodd mai dim ond un criw o saethwyr sy’n dod o Gymru ac un o dramor; o Lundain a Swydd Gaer a'r ardaloedd cyfagos y daw’r gweddill. Mae diwrnod o saethu’n cynnwys lletygarwch drwy gydol y dydd, gan ddechrau â brecwast wedi'i goginio ar Siop Fferm Rhug. Bydd y caffi’n darparu brecwast ar gyfer tua 500 o’i saethwyr.

 

Roedd Wayne hefyd o'r farn mai saethu yw’r farchnad dwristiaeth fwyaf yng Nghymru yn ystod misoedd y gaeaf, a bod angen i Gymru gydnabod bod pobl yn dod yma i saethu. Roedd hefyd o'r farn bod prinder gwestai o safon - yn enwedig yn ardal Corwen – yn rhwystr o ran datblygu’r diwydiant yn y dyfodol mewn nifer o rannau o Gymru.

 

Dywedodd Wayne wrth y grŵp ei fod yn credu’n gryf y dylai saethu fod yn rhan allweddol o farchnata twristiaeth yng Nghymru, ond bod perthynas negyddol gyda Croeso Cymru yn rhwystr. Yn ei farn ef, ymddengys bod diffyg dealltwriaeth ddiwylliannol a chydnabyddiaeth o'r manteision ehangach sydd ynghlwm wrth saethu. Cadarnhaodd Gary Ashton hefyd ei fod yn credu bod hynny’n wir.

 

v  CAM I’W GYMRYD - gwahodd Croeso Cymru i'r cyfarfod nesaf.

 

Dywedodd Rachel Evans nad oedd adolygiad o dwristiaeth yng Nghymru a gynhaliwyd yn ddiweddar yn rhoi cydnabyddiaeth deilwng i chwaraeon cefn wlad yn enwedig o ystyried yr hyn roedd y grŵp wedi’i glywed am y modd y maent yn creu gwaith ac yn hybu’r economi.

 

Anogodd Wayne y grŵp i ystyried y ffaith bod tir ar gael i’w rentu yng Nghymru gan sicrhau incwm da o ffynhonnell arall i berchnogion tir, defnyddio’r tir amaethyddol lleiaf cynhyrchiol, a chan hefyd roi hwb i dwristiaeth Cymru yn ystod misoedd y gaeaf.

 

Cyfeiriodd William Graham at y Pwyllgor Deisebau gan atgoffa’r grŵp i’w ddefnyddio fel dull o lobïo – rhaid cael o leiaf 10 llofnod ar bob deiseb.

 

Holodd Angela Burns am y berthynas rhwng y sector saethu a Chyfoeth Naturiol Cymru. Teimlai’r siaradwyr gwadd ac aelodau'r grŵp fod agwedd Cyfoeth Naturiol Naturiol tuag at saethu yn rhannol seiliedig ar yr ofn y bydd gwrthdaro rhwng y rhai sydd am ddefnyddio tir ar gyfer gwahanol weithgareddau, ee cerddwyr, beicwyr mynydd yn cyfarfod â rhywun ar drywydd anifeiliaid hela. O gofio bod cyfleoedd wedi'u hen sefydlu i ddilyn anifeiliaid hela ar dir y Comisiwn Coedwigaeth yn Lloegr a Scottish Natural Heritage, nid yw’r safbwynt hwn yn ddefnyddiol ac nid yw wedi’i seilio ar dystiolaeth. Nodwyd hefyd nad oes unrhyw sôn am chwaraeon saethu yn y strategaeth hamdden a gweithgareddau awyr agored Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

v  CAM I’W GYMRYD - gwahodd Swyddog Datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru i'r cyfarfod nesaf

 

Dywedodd Glynn Evans y gallai cadwraeth fod yn ffynhonnell incwm posibl gan ei fod yn credu y byddai pobl yn talu i ymgymryd â gwaith cadwraeth.

 

Dywedodd Mark Isherwood fod Llywodraeth Cymru wedi cael cais Rhyddid Gwybodaeth gan League of Cruel Sports i gael gwybod pwy yw aelodau’r grŵp a phwy yn eu plith sy’n saethu.

 

Nodwyd hefyd fod modd i’r Grŵp Trawsbleidiol gymryd camau ac y dylai ysgrifennu at bobl a gofyn am wybodaeth

 

v  CAM I’W GYMRYD - ysgrifennu at Edwina Hart gan gyfeirio at Gyfoeth Naturiol Cyfoeth a’u hagwedd at chwaraeon saethu.

 

v  CAM I’W GYMRYD gwahodd Ken Skates i ddod i un o’r cyfarfodydd

 

Dywedodd y Angela y byddai’n hoffi gwybod am gyrsiau, nid dim ond rheoli anifeiliaid hela, y gellid ac y dylid eu cynnal yng Nghymru.

 

Roedd Rachel yn awyddus i roi gwybod i'r grŵp nad yw CBAC yn cydnabod bod saethu yn gamp dilys - cadarnhaodd Gary fod gan BASC hefyd rywfaint o brofiad o hyn a’i fod wedi effeithio ar eu haelodau.

 

Teimlai Jono fod y canfyddiad o saethwyr ac o saethu yn newid ond y gellid gwneud rhagor yn y cyswllt hwn.

 

Roedd y grŵp o’r farn ei bod yn haws i bobl fynd i saethu drwy drefnu eu syndicadau’u hunain a dywedodd Angela fod ganddi rywfaint o brofiad o hyn.  Y dybiaeth yw mai gweithgaredd i’r cyfoethog ydyw, ond nid yw pobl yn gweld y saethwyr anffurfiol, y grwpiau a syndicadau, a’r rhai sy’n curo ac yn casglu.

 

Camau i'w cymryd

 

·         Gwahodd Croeso Cymru i'r cyfarfod nesaf.

·         Gwahodd Swyddog Datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru i'r cyfarfod nesaf.

·         Ysgrifennu at Edwina Hart gan gyfeirio at Gyfoeth Naturiol Cymru a'u hagwedd at chwaraeon saethu.

·         Gwahodd Ken Skates i un o’r cyfarfodydd.

·         Defnyddio’r Pwyllgor Deisebau.

·         Pob aelod i ystyried cwestiynau a phwyntiau i'w codi ynghylch y pynciau a ganlyn

o   Addysg

o   Cyfathrebu

o   Lletygarwch

o   Twristiaeth

 

Cytunwyd i ymdrin yn benodol â thwristiaeth yn y cyfarfod nesaf.

 

 

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I’w gadarnhau